Newyddlen Y Clwb

10 Dec 2020 by NRFC

50 Mlynedd Gogoneddus – Braslun o Hanes.

Mi sefydlwyd Clwb Rygbi Drenewydd (CRD) gwreiddiol yn echrau yr 20fed ganrif, ychydig iawn o hanes sydd ar gael, mwyaf piti. Mi gafodd y clwb ei danddyfino yn ystod y rhyfel.

Mi gafodd y clwb presennol ei sefydlu yn dilyn cyfarfod gaeth ei gynal yng Ngwesty yr Elephant & Castle ar yr 2ed o Dachwedd 1971. Mi roedd yn tua 50 yn bresennol, a mi etholddwyd y swyddogion dilynol :- Cadeirydd H.L.D.Jenkins; Ysgrifennydd David Jenkins; Trysorydd Adam Stanton. Y pwyllgor oedd Terry Drage, Doug Underhill, Ray Jones, Dewi Lloyd-Jones, Bernard Corfield a John Collinson. Pris aelodaeth yn £1.50. Yr unig aelodau gwreiddiol, sydd yn dal i fod hefo ni fellai gofio ydi Murray Owen, Ray Jones, John Collinson a finau. Lliwiau’r clwb i fod yn goch a gwyn, and gobeithio chwarae ar gaeau Ysgol Uwchradd y Drenewydd.

Gem brawf oedd y gem gyntaf i drio ffendio allan faint o ddiddordeb oedd yna i sefydlu clwb rygbi. Gafodd ei chwarae ar hen gae BRD (gyda diolch i Ray Slade). Mi roedd y timau yn dod o dafarnau y Grapes a’r Lion. Rhai o’r chwaraewyr yn y gem yma, a aeth ymlaen i chwarae i’r clwb am flynyddoedd oedd Roger Morgan, Chris Williams, Teddy Jones, Clive Morgan (mi aeth ymlaen i chwarae yn Llanelli) Hugh Lloyd, Russ Green, Ned Evans “Ddu”, Adam Stanton, Murray Owen, Dick Evans, a nifer arall fellai ddim cofio!!

Mi gafosdd y gem gyntaf “swyddogol” ei cwharae yn erbyn Trallwng ar y 6ed Tachwedd, Trallwng yn ennill 31pt i 9pt. Roedd adroddiad y gem yn enwi rhai chwaraewyr fel: blaenwyr D. Hopkins a Ray Jones, cefnwyr Murray Owen (mewnwr), Adam Stanton, R. Owen. Rheng ol D.L.Jones, J.Jones a Hugh Lloyd.

Y gemau dillynol oedd ar y 4ydd Rhagfyr yn erbyn Rolls Royce, Amwythig. Sgor gyfartal 16 o bwyntiau yr un. Rhagfyr 11ed yn erbyn Llanfair y Muallt colli 27pt i 7pt. Ymlaen wedyn 1af Ionawr i Ddolgellau a colli 34pt i 0pt.

Penderfynwyd wedyn baratoi cynllun i gael adeilad i’r clwb, yn ogystal a cae chwarae ein hunan yn Maesydail. Drwy waith brwdfrydig, yn enwedig gan John Collinson a Bob Thomas (cyn Lywydd) mi aeth y gwaith ymlaen. Mi roedd yna ddigon o help ar gael gan chwaraewyr a cefnogwyr yn cynwys grwp egniol iawn o ferched. Mae yna atgofion gwych o nosweithiau terfysglyd yn y clwb a gemau cystadlaeol ar y cae!!!

Ar ol cyfnod mi bendefynwyd fod eisiau y cae chwarae a safle’r clwb gan yr awdurdodau i adeiladu ffatrioedd. Mi gytunom ni felly symud i’r Rec. Mi gymerodd y clwb yr arweinid i adeiladu ystafelloedd newid, codi arian drwy bob math o ffyrdd yn cynwys – prynu brics, lori yn carnifal y dre. Mi agorwydd y safle yn swyddogol gan Max Boyce.

Mi gollwyd waed, chwys a dagrau i baratoi y Rec fel cartref newydd y clwb, ac hefyd i gael cae chwarae o’r safon uchaf. Mae yna lawer iawn wedi digwydd ers y blynyddoedd cynnar, mi aeth yr adeilad, neu’r pafiliwn ar dan. Eto y clwb rygbi gymerodd yr arweiniad i adeiladu y lle newydd.

Edrych yn ol at y datblygiadau ar y Rec, mae gennym adeilad clwb gwych, ystafelloedd newid (mewn agen atgyweirio), y prif gae chwarae sydd yn un o’r caeau chwarae gorau yn Gogledd Cymru, cae yr ail dim sef cyn gae Clwb Hoci Drenewydd,, mi estynied y cae yma drwy symud tunelli o ysbwriel o hen domen y dre!! llifolau ar y cae chwarae, ag hefyd ar y safle ymarfer, cytiau storio a drwy gael cefnogaeth hael gan noddwyr stondin safle i’r cefnogwyr.

Mi roedd awydd ac angen i fod yn aelod o Undeb Rygbi Cymru, ag felly am dair blynedd mi roedd angen gwneud llawer iawn o waith i fodloni gofynion y Undeb ag yn mis Mehefin1995 mi dderbyniwyd y clwb i fod yn aelod llawn o’r Undeb. Cam bwysig ac hanfodol ofnadwy. Mae yna lawer iawn mwy o wybodaeth i “lenwi’r bylchau” ond mae yna beth ofnadwy wedi cael ei gyflawni yn y 50 mlynedd dwythaf – mi allwn edrych yn ol gyda llawer o falchder.

Y’r unig reswm fod y gwaith sydd wedi cael ei gyflawni wewdi dod i rym ydi i roi cyfle i bobl lleol chwarae rygbi, a mae gan y clwb enw gwych am ymestyn groeso i chwaraewyr o’r holl ardal, a dramor. Felly rydym ni i gyd yn haeddu clod mawr am beth rydym wedi ei gyflawni. Dyma un neu ddau ohonynt:-

Cwpan Hooson ennillwyr am 9 mlynedd.
Tlws Eagle Brewery ennillwyr am 4 blynedd.
Ennillwyr Rhanbarth Canolbarth Cymru; Cystadlaeuaeth Saith Harlech; Cwpan Saith Lucton; Cyngraidd Canolbrth Cymru; Ail yn Cyngraidd Gogledd Cymru 89/90. Cwpan Timau Cyntaf y Canolbarth; Tlws y Royal Mail. Dim yn unig y tim cyntaf oedd yn llwyddianus, mi roedd yr Yeuenctid a’r timau ifanc yn llwyddianus hefyd.

Mae’n sicr na’r llwyddiant mwyaf oedd cyrraed rownd derfynol y “Welsh Brewers Cup” yn tymor 1989/90. Hwn oedd prif gystadlaeaeth cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru. Beth am ddiwrnod i’f clwb, ar hyfforddwyr, chwaraewyr a cefnogwyr yn trafaelio i’r Stadiwn Genedlaethol, Caerdydd. Colli gem agos iawn i Hartridge High School Old Boys. On beth am ddiwrnod i’w gynnwys yn hanes y clwb.
Dwi’n falch ofnadwy o gael fy ethol fel Llywydd y clwb, ag i gael cyfle i ysgrifennu’r braslun hanesyddol yma. Dwi’n dilyn rhai a o bobl arbenning iawn, pobl sydd wedi cyfranu gymaint o’i hamser i’r clwb. Mae yna lawer iawn wedi ei gyflawni, mae yna fwy i wneud wrth gwrs, felly mae hi i fyny i’r genhedlaeth nesaf i adeiladu atgofion newydd i’r clwb arbenning yma.

Dai Davies
Llywydd Y Clwb
Clwb Rygbi Y Drenewydd

Comments --

Loading...